Annie MaryWILLIAMSWILLIAMS - ANNIE MARY, March 20, 2020. Yn dawel yng Nghartref Nyrsio Cerrig yr Afon gynt o Fodol Uchaf, Y Felinheli yn 94 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Moi; mam gariadus Brenda, Menna, Elizabeth a Mair; mam-yng-nghyfraith, nain, hen nain, hen-hen nain; chwaer y diweddar Megan ac Owen Huw a modryb hoffus. Gwasanaeth preifat ar lan y bedd ym Mynwent Cymuned Pentir ddydd Llun, Mawrth 30, 2020. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Cronfa Preswylwyr Cerrig yr Afon. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates