RaymondTINDALLTINDALL - RAYMOND, 14 Mawrth, 2020. Yn dawel yn ei gartref Bod Iago, 3 Rathbone Terrace, Groeslon, yn 85 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Jean, a thad balch a charedig Garry ac Andrew, a'u partneriaid Elaine a Rhian; taid abrennig Matthew, Daniel, Iwan a Ben, brawd y diweddar Tommy, Mary, Victor a Spencer, a chyfaill hwyliog i amryw. Mi fydd yn golled fawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Iau, 19 Mawrth, 2020. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes am 1.30 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah, Pen-y-groes. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon. Ymholiadau i Roberts & Owen, 28 High Street, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Raymond