Elizabeth ElliotOWENOWEN - ELIZABETH ELLIOT, (Betty Saynor). 6 Gorffennaf, 2019. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, 2 Cil Uchaf, Caernarfon, yn 83 mlwydd oed. Priod addfwyn a thyner y diweddar Gynghorydd Owen Trefor Owen, mam arbennig Elaine, Wendy, Stephen, Heather, David, Ian ac Andrew, Avril a Dylan; mam-yng-nghyfraith hoff a nain a hen-nain annwyl i'w wyrion a'i wyresau. Bydd colled enfawr i'w theulu a'i chyfeillion oll. Angladd brynhawn Mawrth, 16 Gorffennaf, 2019. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Llanbeblig am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig. Blodau gan y teulu'n unig, yn ôl eu dymuniad. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth