David WilliamMORRISMawrth 9, 2022. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd o Fferm Cefn Coch, Deiniolen ar drothwy ei benblwydd yn 85 mlwydd oed. Priod annwyl y ddiweddar Heulwen; tad amhrisiadwy Wil, John, Alwena, Dylan a'r diweddar Geraint; tad-yng-nghyfraith, taid a hen daid caredig; brawd ac ewythr hoffus. Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Sadwrn, Mawrth 19, 2022. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel-y-Rhos, Llanrug am 11.00 y bore a rhoddir i orffwys ar dir y fferm (oddeutu 12.00 o'r gloch). Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Meddygfa Llanberis mewn cydnabyddiaeth o'u gofal a'u cymorth parhaus ac hefyd er cof am y diweddar Geraint tuag at Ymchwil Chronic Lymphocytic Leukaemia. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates