Heulwen BrynMORRISMORRIS - HEULWEN BRYN , . Mawrth 29, 2020 Yn sydyn ond yn dawel yn Ysbyty Gwynedd Bangor o Fferm Cefn Coch, Deiniolen yn 79 mlwydd oed. Priod annwyl Dafydd; mam amhrisiadwy Wil, John, Alwena, Dylan a'r diweddar Geraint; mam-yng-nghyfraith, nain a hen-nain garedig; chwaer a modryb hoffus. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd preifat oherwydd y sefyllfa bresennol ddydd Sadwrn, Ebrill 4, 2020. Derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Ymchwil Chronic Lymphocytic Leukaemia. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Heulwen