BerylLEWISLEWIS - BERYL, . Hydref 1, 2021. Yn dawel yn Ysbyty Eryri, Caernarfon o Fron, 3 Stryd Efrog, Llanberis, yn 89 mlwydd oed. Merch y diweddar Hywel Morris a Mary Blodwen (Dol Elidir); priod cariadus y diweddar Now Lewis; mam a ffrind gorau Eirian a Mona a mam yng nghyfraith hoff Bryan a Hans; nain hwyliog a ffeind Mari Wyn, Iwan, Sioned, Aled, Hannah a Kurt a hen nain Gwenfair Haf a Guto Rhys; chwaer arbennig Betty a'r diweddar Hugh, Gwyneth a Jane a chwaer yng nghyfraith Rita, Keith a'r diweddar Idwal, John a teulu Madryn House, Llanrug. Gwasanaeth preifat yn Capel Coch, Llanberis, ddydd Gwener, Hydref 15 am 11 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Nant Peris am oddeutu 11:45 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Meddygfa Llanberis a Nyrsus Cymunedol Llanberis. Ymholiadau E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates