Patricia GraceLARSENLARSEN - PATRICIA GRACE, . Tachwedd 20, 2021 Hunodd yn dawel yng Nghartref Gofal Gwynfa, Caernarfon, wedi cyfnod o waeledd. O Llygad yr Haul, Penisarwaun, yn 95 mlwydd oed. Gwraig annwyl Leslie; mam gariadus Cai, Trystan, Ffion a Rheon; mam-yng-nghyfraith, nain, hen nain, modryb a chwaer arbennig. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Cynhebrwng ddydd Iau, Rhagfyr 2, 2021. Gwasanaeth cyhoeddus, gan gadw at y rheolau iechyd cyhoeddus presennol a gwisgo gorchudd wyneb, yn Eglwys Santes Helen, Penisarwaun am 11:30 o'r gloch. Fe'i rhoddir i orffwys ym Mynwent yr Eglwys. Blodau'r teulu yn unig, os dymunir, derbynnir rhoddion tuag at elusennau lleol er cof am Pat. Ymholiadau pellach i Meinir, Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaun, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates
Add a tribute for Patricia