EnfysJONESY Wern, Y Felinheli. Ebrill 11, 2022 Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn 83 mlwydd oed, yng nghwmni cariadus ei merch. Priod annwyl y diweddar Wyn 'Taff'; mam gariadus Julie a'r diweddar Anthony; mam-yng-nghyfraith John; nain balch Michelle, Gemma a James a hen nain garedig Lauren, Sophie, Evelyn a Finlay; chwaer dyner y diweddar Dilys a Sybil, modryb a ffrind hoffus. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Llun, Ebrill 25, 2022. Gwasanaeth preifat yn Eglwys Santes Mair, Llanfair-is-Gaer a rhoddir i orffwys ym mynwent yr eglwys. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at y Lleng Brydeinig Frenhinol (Royal British Legion). Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates