MairJONESJONES - MAIR, . (Hendy, Caernarfon). Tachwedd 16, 2021. Yn dawel yn ei chartref yng nghwmni ei theulu yn 96 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon i'r diweddar Robert, Mam annwyl Glenys, Dafydd, Aled, Delyth a'r diweddar Trebor, Mam yng nghyfraith garedig Peter, Dilys, Eilir a Jeff, Nain a 'Nain Bach' arbennig iawn. Gwasanaeth o ddiolchgarwch yng Nghapel Seilo, Caernarfon Dydd Sadwrn Tachwedd 27, 2021 am 11 y.b. Derbynnir rhoddion er cof am Mair yn ddiolchgar tuag at Ty Gobaith ac Ambiwlans Awyr. Ymholiadau pellach i Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Ffordd y De, Caernarfon. Ffon (01286) 673072.
Keep me informed of updates