AlfJACKSJACKS - ALF, 19 Mai, 2020. (Cyn Bennaeth Adran Beirianneg, Coleg Menai). Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 8 Derwen Lâs, Caernarfon, yn 83 mlwydd oed. Gŵr cariadus Margaret, tad arbennig Wendy, Nigel a'r diweddar Michael a thad-yng-nghyfraith Aled, Bethan ac Annwen. Taid gofalus Lowri a Daron, Nia a Darren, Dylan a Jen, Emyr, Sioned a Meilir, hen-daid balch Gruff ac Alffi ac Ifan a Tomos a brawd Tony a'i wraig Hazel. Oherwydd yr amgylchiadau fe fydd yr angladd ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf yn gwbl breifat. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano, pe dymunir, tuag at Antur Waunfawr, trwy law Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates