Irfon EllisELLISELLIS - IRFON ELLIS, Ebrill 11, 2019. Yn dawel yng ngofal tyner ei deulu gartref yn Annedd Wen, 5 Ffordd Cwellyn, Caernarfon, gynt o Llanberis a Weirglodd Goch, Penisarwaen. Cymar annwyl a ffrind gorau Sian; tad balch a chariadus Steffan a Sharon; tad yng-nghyfraith Eurwyn; taid gofalus Natalie, Mike ac Elain, hen-daid tyner Esther; ewythr caredig Efan; brawd hoff Nansi a'r diweddar Gwilym; brawd-yng-nghyfraith Erica a Mai. Gwelir ei golli a bydd bwlch enfawr ar ei ôl. Angladd ddydd Iau, Ebrill 18, 2019. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel-y-Rhos, Llanrug am 11:00 y bore a rhoddir i orffwys ym Mynwent Macpelah, Deiniolen. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Cymdeithas Clefyd Motor Niwron (MNDA) a Hospis yn y Cartref. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates