AlwenaWATKIN(Trem y Foel, Licswm) Dymuna teulu y diweddar Alwena Watkin, ddatgan eu diolchiadau am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam a nain annwyl.
Gwerthfawrogi'r yr holl gardiau, negeseuon, galwadau ffôn ac ymweliadau a fu'n gysur mawr i'r teulu.
Diolch arbennig am y rhoddion er cof am Alwena: casglwyd swm hael tuag at Capel Ty'n y Groes.
Diolch i'r Parchedig Owain Davies am ei wasanaeth teilwng ac i'r ymgymerwyr J. E. Davies a'i Fab, Licswm am eu caredigrwydd a threfniadau trylwyr.
Diolch hefyd i Popty Pen Uchaf am y lluniaeth bendigedig yn dilyn y gwasanaeth.
Keep me informed of updates